Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 11 Hydref 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:15 - 13:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan Ieuan Wyn Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr Andrew Goodall, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan Geoff Lang, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Karen Miles, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Jo Salway, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Eleanor Roy (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Datganodd Paul Davies fuddiant gan fod ei wraig yn cael ei chyflogi gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda.
1.3 Datganodd Christine Chapman fuddiant gan fod ei gŵr wedi cyflawni gwaith i Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan.
2. Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14 - Tystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan; Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Cychwynnol, Cymuned a Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr; a Karen Miles, Cyfarwyddwr Cyllid a Diwygio Economaidd, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda.
2.2 Holodd yr Aelodau y tystion.
Cam i’w gymryd:
Cytunodd Dr Andrew Goodall i ddarparu:
· Nodyn yn mesur cost ystâd y GIG na chaiff ei defnyddio, gan gynnwys graddau’r risg yn yr ystâd o ran diffyg cydymffurfio.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gydffederasiwn y GIG ynghylch rhannu gwasanaethau ar draws y GIG.
3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitemau 4 a 7.
4. Ystyried adroddiad drafft ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14
4.1 Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau ar ei adroddiad drafft ynghylch cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i fformadu’r adroddiad diwygiedig ar ffurf llythyr at y Gweinidog Cyllid, a fyddai’n cael ei gyhoeddi cyn hir.
5. Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14 - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
5.1 Croesawodd y Pwyllgor Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Jo Salway, Pennaeth Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru; Andrew Jeffreys, Pennaeth Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru.
5.2 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:
· Cyllidebau sydd wedi’u diogelu yn y cynigion a rhagor o wybodaeth am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ystyried gwariant ataliol i leihau’r gofynion ar wasanaethau cyhoeddus.
· Rhagor o wybodaeth sy’n rhoi’r rhestr lawn o brosiectau sydd wedi’u cyllido drwy’r cynllun buddsoddi i arbed.
6. Papurau i'w nodi
6.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
7. Ystyried y dystiolaeth ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14
7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14.